Profiadau
O weithgaredd egniol ac anturiaethus i hamddena ac ymlacio, gallwch ddarganfod hyn i gyd o fewn tafliad carreg i Westy Seren. Dewisiwch beth hoffech chwi weld a gwneud a gadewch i ni drefnu'r gweddill. Yr holl sydd angen i chwi wneud ydi cyrraedd Gwesty Seren a mwynhau. Wnewch chwi ddim credu cymaint sydd i'w weld a gwneud yn y rhan yma o Ogledd Cymru.