Cefnogaeth i fobl gyda anabledd dysgu
Gallwn gynnig cefnogaeth gofalgar a phroffesiynol, ni fydd unrhyw beth yn ormod o drafferth i'r tîm. Rydym yma i greu arhosiad mor esmwyth â phosib.
Sefydlwyd Seren yn 1996 gyda'r prif nod o gynnig cefnogaeth broffesiynol i fobl gyda anableddau dysgu ac erbyn hyn mae wedi ennill ei lle ymysg y sefydliadau mwyaf blaengar yn y maes. Dros y blynyddoedd mae wedi datblygu pecyn o brosiectau a gweithgareddau, pob un ar gyfer gwella safon byw, nid yn unig y rhai gyda anableddau dysgu, ond hefyd eu teuluoedd. Datblygwyd GWESTY SEREN mewn modd y gall gynnig yr un math o gyfleusterau, cefnogaeth ac amgylchedd gwyliau sydd ar gael i bawb arall. Cynlluniwyd y gwesty yn bwrpasol gyda hyn mewn golwg.
Aros gyda'r teulu
Y syniad tu ôl i'r cynllun oedd cynnig amgylchedd lle gall y teulu aros gyda'i gilydd. Mae nifer o deuluoedd eisiau gwyliau ar y cyd heb gael eu gwahanu. Gall Gwesty Seren gynnig pecyn cefnogaeth sy'n galluogi aelodau eraill o'r teulu i wneud pethau nad ydych chwi eisiau gwneud. Peidiwch a diffetha'r gwyliau - gallwn gynnig y cymorth dach chi angen i wneud rhywbeth gwahanol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth a phris. Gallwch weld yn y tab 'Pethau i'w gwneud' bod mwy na digon o bethau'n mynd ymlaen yn yr ardal i apelio at drawsdoriad sylweddol o bobl.
Aros ar ben eich hun
Gallwn gynnig pecynnau penodol os ydych am gael seibiant ar ben eich hun. Gall hyn fod yn fyr, efallai dros benwythnos, neu am gyfnod hirach. Pa un bynnag, gallwn gynnig pecyn cefnogol gyda amrywiaeth o bethau i wneud gan gynnwys :-
Adloniant yn y gwesty a gweithagreddau fel pwl a dartiau
Gweithgareddau ar y safle fel celf a chrefft, garddio, gwaith coed a phethau tebyg
Ymweld ag atyniadau amrywiol neu cymeryd rhan mewn rhai o'r gweithgareddau eraill yn yr ardal Siopa
Adloniant a ddarperir gan eraill fel sinema, cyngherddau, sioeau byw ac yn y blaen
Gallwch fanteisio ar wasanaethau unigryw megis Canolfan Seiclo Caernarfon, lle mae'r beiciau wedi'u haddasu'n arbennig ac mae cefnogaeth ar gael i fwynhau profiad awyr agored iachusol.
Cyrsiau Hyfforddi wedi'u achredu
Gallem hefyd ddarparu nifer o gyrsiau hyfforddi preswyl megis celf a chrefft, gwaith coed, garddio, sgiliau bywyd, celfyddydau perfformio, technoleg gwybodaeth, gweinyddiaeth ac yn y blaen. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Ewch i'n tab 'Pethau i'w Gwneud' am fanylion am bopeth sydd ar gael. Cysylltwch â ni am wybodaeth pellach, manylion a chost ein pecynnau.